Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Chwefror 2021
Amser:
14.00 -
17.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11153
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Yr Arglwydd Deben, UK Committee on Climate Change Haf Elgar, Cyfeillion y Ddaear Alexander Phillips, WWF Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.
2 Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Deben, Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd.
3 Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyfeillion y Ddaear Cymru a Chronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru.
4 Papurau i’w nodi
4.1Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â gwaith gwaddol y Pwyllgor
4.2 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas ag iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon
4.3 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Fframweithiau Cyffredin y DU
4.4 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau (Diwygio) Organig 2021
4.5 Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Mesur Dros Dro) (Covid-19) (Diwygio) 2021, a Rheoliadau (Diwygio) Organig 2021
4.6 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig mewn perthynas â’r rheoliadau drafft ar newid hinsawdd
4.7 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch cynlluniau amddiffyn yr arfordir
5 Cynnig o dan Reolau Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Gwaith gwaddol: Newid hinsawdd - trafod y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.